1. |
CATALONIA
03:06
|
|||
Draw yn Sbaen ma na rhyfel cartref
gall bachgen fod yn arwr trwy ymladd tramor
paid poeni os ti heb dal gwn o'r blaen
Cymryd llw i'r faner goch
a teithio'n bell ar draws y môr
ymladd nawr ar strydoedd Barcelona
Digon o heulwen ac awyr iach
digon o ymladd i fechgyn y gwlad
O Catalonia, mae byth rhy hwyr
Am dair mlynedd ni'n ymladd nôl
heb obaith does dim troi nôl
colles i bob ffrind, wnai byth neud ffrind eto
I blant y rhyfel o wlad y gan
ni fydd croeso adref nawr
unig yn dwylo'r Nazionale
Digon o heulwen ac awyr iach
digon o ymladd i fechgyn y gwlad
O Catalonia, mae byth rhy hwyr
|
||||
2. |
RHEDEG GYDA BLAIDD
02:40
|
|||
Os ti moen bod yn rhydd dilyn fi
Os ti moen gweld y byd dilyn fi
Cysgod dros y penffordd yn galw enw fi
Cysgod dros y penffordd yn torri twll trwy Cymru rhydd
Rhedeg gyda Blaidd sy'n achub fi
Rhedeg gyda Blaidd sy'n achub fi
|
||||
3. |
TWM SIÔN CATI
02:12
|
|||
Fel cadno neu y gwynt
ymysg lladron Cymru gwyllt
ŵr bonheddig rhaid dysgu
rhannu'ch arian gyda ni
Dan olau lleuad bydd ni'n dod
fy enw chi'n rhy ofn sôn
dy arian neu dy fywyd bydd
Twm Siôn Cati
Ond trwy dwyll a nid llad
does dim dewis pan ti'n dlawd
ŵr bonheddig rhaid dysgu
rhannu'ch arian gyda ni
Dan olau lleuad bydd ni'n dod
fy enw chi'n rhy ofn sôn
dy arian neu dy fywyd bydd
Twm Siôn Cati
|
Streaming and Download help
If you like BLAIDD, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp